Arwain a dylanwadu ar benderfyniadau strategol a rhannu syniadau i gyflawni gweledigaeth Mudiad #iwill drwy fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb
Dangos effaith Mudiad #iwill drwy eich gweithredu cymdeithasol a’ch profiadau byw
Annog a ysbrydoli pobl ifanc yn eich cymuned i gymryd eu camau cyntaf i weithredu cymdeithasol
Gweithio gyda phartneriaid, sefydliadau a phobl ifanc i arfogi a galluogi pobl ifanc i lywio ac arwain newid yn eu bywydau a’u cymunedau eu hunain, gallai hyn gynnwys ymgyrchu a dylanwadu’n uniongyrchol ar y llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Annog sefydliadau yn eich rhwydwaith i ymuno â’r Siarter Pŵer Ieuenctid i ddangos eu hymrwymiad i bobl ifanc.
Annog pobl ifanc i ymuno â Mudiad #iwill a chael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau
Cefnogi gweithgareddau #iwill gan gynnwys Diwrnod Pŵer Ieuenctid ac wythnos #iwill.
Dod yn Llysgennad #iwill
Nid arweinwyr yfory yn unig yw pobl ifanc. Mae ganddon ni’r egni, y sgiliau a’r syniadau i newid cymdeithas a’r amgylchedd er gwell heddiw.
BETH ALLECH CHI EI GAEL?
Cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc eraill o wledydd Prydain, a gwneud ffrindiau newydd gyda phobl sydd hefyd yn frwd dros weithredu cymdeithasol
Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau siarad cyhoeddus, cyfathrebu ac arwain drwy siarad mewn cynadleddau, cyfarfodydd bwrdd a byrddau cynghori i bobl ifanc a mwy
Sicrhau cyfle i rannu syniadau a safbwyntiau ar lwyfannau cenedlaethol a ledled Prydain.
Cyfleoedd hyfforddi a datblygu, fel gweithdai ‘Hunanofal a Gwytnwch ar gyfer Ymgyrchwyr Ifanc’ a ‘Sut i gael sgyrsiau anodd’
Cefnogaeth barhaus gan dîm cydlynu #iwill a chostau treuliau ar gyfer gweithgareddau wyneb yn wyneb
Mynediad at adnoddau gweithredu cymdeithasol digidol ar-lein i’ch helpu i gynllunio a chyflawni eich prosiectau
Diweddariadau dros e-bost gyda galwadau i weithredu a chyfleoedd i gymryd rhan ym Mudiad #iwill
Cyfle i gymryd rhan yn wythnos #iwill a Diwrnod Pŵer Ieuenctid, a digwyddiadau i ddathlu ac arddangos eich gweithredu cymdeithasol.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Sul, 14 Ebrill 2024 am 11.59pm
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl yma, cysylltwch â thîm #iwill yn iwill@ukyouth.org.
Cyn gwneud cais, mae’n bwysig i chi ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar Ddiogelu Data sy’n esbonio pa ddata rydyn ni’n ei gasglu amdanoch chi a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio.
Mae croeso i chi anfon e-bost aton ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.